Tydi, O! Dduw, wyt Frenin hedd,
Rho derfyn mwy ar
drin y cledd;
O! dwg ein gwlad a'r
byd i drefn, -
Rho hedd, O! Dduw, rho hedd drachefn.
Ti ddygaist, Iôr,
â'th gadarn law,
Blant Israel gynt
i'r Ganaan draw;
O! bydd i'n gwlad yn gadarn gefn, -
Rho hedd, O! Dduw, rho hedd drachefn.
Er mwyn dy gariad, Arglwydd mawr
A'th ryfedd ras i
blant y llawr,
Na wawried dydd
it droi dy gefn, -
Rho hedd, O! Dduw, rho hedd drachefn.
O! boed ein lle am wir fwynhad
Tragwyddol hedd y nefol wlad;
A dweded holl
drigolion byd, -
Rho hedd, O! Dduw, rho hedd drachefn.
O R Owen 1872-1939
Tôn [MH 8888]: Resignation (<1962) |
Thou, O God, art the King of peace,
Put an end henceforth to
punishment by the sword;
O bring our land and the
world to order, -
Give peace, O God, give peace again.
Thou didst lead, Master,
with thy firm hand,
The children of Israel of old
into yonder Canaan;
O be to our land a firm back, -
Give peace, O God, give peace again.
For thy love's sake, great Lord
And thy wonderful grace to
the children of earth below,
May a day not dawn
for thee to turn thy back, -
Give peace, O God, give peace again.
O may our place be truly wanting to enjoy
The eternal peace of the heavenly land;
And may all the inhabitants
of the world say, -
Give peace, O God, give peace again.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|